Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

 

Teitl: Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2013

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer trwyddedu personau sy'n ymwneud â bridio cŵn Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau yn diffinio bridio cŵn at ddibenion adran 13(1) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Canlyniad y dynodiad hwnnw, yn ddarostyngedig i griteria cymhwyso, yw bod rhaid i unrhyw berson sy’n dymuno bridio cŵn yng Nghymru gael trwydded gan ei awdurdod lleol o dan y Rheoliadau hyn. Mae'r gofyniad hwn yn disodli'r gofyniad i gael trwydded o dan Ddeddf Bridio Cŵn 1973 yng Nghymru.

 

 

GweithdrefnCadarnhaol

 

Materion craffu: technegol

 

 

O dan Reol Sefydlog 21.2, gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-

 

1. Mae Rheoliad 24 yn cymhwyso nifer o bwerau ôl-gollfarnau perthnasol a fyddai'n gymwys mewn perthynas â chollfarn am drosedd o dorri amod trwydded. Y pwerau hyn yw gwahardd, canslo trwydded a / neu wahardd rhag dal trwydded ac atafaelu anifeiliaid. Caiff 'pŵer ôl-gollfarnau perthnasol' ei ddiffinio yn Adran 62 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 er ei fod yn cynnwys adrannau 34 (gwaharddiad) a 42 (gorchmynion o ran trwyddedau), nid yw'n cynnwys Adran 35 (atafaelu). Fodd bynnag, byddai Adran 35, er nad yw'n 'bŵer ôl-gollfarnau perthnasol' ar gael i Lys pe bai Gorchymyn yn cael ei wneud o dan Adran 34 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 -

 

23 (vi) - ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

 

Rhinweddau: craffu

 

O dan Reol Sefydlog 21.3, gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-

 

1. Y ddeddfwriaeth bresennol ar gyfer bridio cŵn yw Deddf Bridio Cŵn 1973 fel y'i diwygiwyd; mae'r gofynion ar gyfer bridio yn seiliedig ar fridiwr sy'n cynhyrchu 5 neu fwy o dorllwythi y flwyddyn. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu'r gyfundrefn drwydded bresennol ac yn gorfodi cyfundrefn newydd. Mae'r memorandwm esboniadol yn datgan bod y prif gynigion polisi o fewn y Rheoliadau newydd yn cynnwys:

·         meini prawf trwyddedu mwy caeth;

·         y gofyniad i osod microsglodyn ym mhob ci cyn ei fod yn 56 diwrnod oed neu cyn gadael y man bridio, pa un bynnag sydd hwyraf;

·         cymhareb staff:ci sydd yn bodloni'r isafswm staffio;

·         safoni'r isafswm oedran y gall ci bach adael y man bridio; a'r

·         angen i sefydliadau bridio gyflwyno rhaglenni cymdeithasu a rhaglenni cyfoethogi a gwella'r amgylchedd.

 

21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad

 

2. Mae Rheoliad 8 (2) yn darparu ar gyfer cymhareb staff:ci o 1 gofalydd llawn amser ar gyfer pob 20 ci a gedwir neu un gofalydd rhan-amser ar gyfer pob 10 ci a gedwir Ni chaiff 'cŵn' eu diffinio'n benodol naill ai yn y Rheoliadau nac yn Neddf Lles Anifeiliaid 2006. Gan fod cŵn bach, geist bridio a chŵn gre i gyd yn cael eu cyfeirio atynt fel cŵn yn rheoliad 3, byddai'r gofyniad yn rheoliad 8 (2) yn golygu bod un gofalydd llawn amser yn gyfrifol am 20 ci, gan gynnwys cŵn bach. Ymddengys o Ddatganiad y Gweinidog ar 11 Mehefin 2013 bod y ffigur o 20 ci yn eithrio unrhyw gŵn bach a gaiff eu geni i'r anifeiliaid hynny.  Yn ogystal, mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar dudalen 5 o'r Memorandwm Esboniadol yn costio'r cynigion ar y sail bod 1 person yn gyfrifol am 20 ci, gan gynnwys eu cŵn bach, ond nid dyna y mae'r ddeddfwriaeth yn darparu ar ei gyfer.

 

21.3 (v) - nad yw’n gwireddu ei amcanion polisi yn berffaith

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Mehefin 2013

 

Ymateb Llywodraeth Cymru i ddilyn: